Darparu cysylltiadau cymunedol i unigolion o bob oedran, i wella iechyd a lles.

Mae Llyw-wyr Cymunedol Gorllewin Cymru yn darparu cymorth i bobl yn y gymuned er mwyn gwella eu lles meddwl a’u lles corfforol

Mae ein llyw-wyr yn treulio amser gyda chi, gan ddod i wybod popeth amdanoch chi a’ch sefyllfa. Maent yn darparu Rhagnodi Cymdeithasol, cymorth anfeddygol ar gyfer materion iechyd a chymdeithasol a chynnig atebion hirdymor.  Maent yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud i chi deimlo eich bod yn gallu siarad yn agored am yr hyn sy'n bwysig i chi, a'r hyn yr ydych chi am ei weld yn digwydd i sicrhau newid yn eich bywyd.

Gwneir cyfres o ymweliadau a galwadau dilynol, wrth i'r Llyw-wyr profiadol gyflwyno dewisiadau posibl o weithgareddau, rhaglenni, neu wasanaethau o'r gymuned leol, sy'n addas ar eich cyfer. Gall hyn gynnwys bron unrhyw beth, o ddod o hyd i glwb cinio i gael cymorth i ddatrys materion tai. Mae’r prosiect Llywiwr yn cael ei ariannu gan Feddygon Teulu Gorllewin Conwy ac yn cael ei gefnogi gan Gymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CGGC), ac mae’n cwmpasu’r ardaloedd canlynol: Conwy, Craig-y-Don, Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanfairfechan, Bae Penrhyn, Betws-y-Coed, Llanrwst, a Cherrigydrudion

Gofynnwch i’ch Meddygfa Teulu lleol am atgyfeiriad neu cysylltwch ag Age Connects Canol Gogledd Cymru, Gwybodaeth a Chyngor ar 0300 2345 007.