Brechlyn Ffliw i Blant a phobl ifanc

Pa blant all gael y brechlyn?

Gall pob plentyn o ddwy oed gael brechlyn ffliw am ddim yn 2022/23.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Pob plentyn mewn ysgol gynradd
  • Pob plentyn ym mlynyddoedd 7 i 11 mewn ysgol uwchradd
  • Pob plentyn sy'n ddwy neu dair oed ar 31 Awst 2022

Hefyd plant chwe mis oed neu drosodd sydd ag unrhyw rai o'r cyflyrau iechyd hirdymor sy'n golygu eu bod yn wynebu risg uwch o ffliw.

Galw eich meddygfa i drefnu apwyntiad

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Cymhwystra ar gyfer y brechlyn - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)