Gall newidiadau i’r ffordd yr ydych yn gofalu amdanoch eich hun a newidiadau i’ch ffordd o fyw helpu i reoli symptomau llawer o broblemau iechyd meddwl. Gallant hefyd helpu i atal rhai problemau rhag datblygu neu waethygu.

Isod gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o adnoddau ar-lein y gallwch eu defnyddio i helpu eich hun i reoli problemau iechyd meddwl cyffredin.

Ewch i'n tudalen ar safle Pum Ffordd at Les i gael gwybodaeth am y camau syml y gall pob un ohonom eu cymryd i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles.

Gallwch hefyd ddarllen 'awgrymiadau ar gyfer byw bob dydd' defnyddiol ar Wefan elusen Iechyd Meddwl MIND a ffyrdd ymarferol o ofalu am eich iechyd meddwl ar wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl.

Adnoddau

Er y gall hunanofal helpu llawer o bobl i reoli eu problemau iechyd meddwl, cofiwch ei bod bob amser yn iawn gofyn am gefnogaeth bellach. Ewch i'n tudalen ar sut i gael gafael ar gymorth i gael mwy o wybodaeth.