Fedra i: Weithio
Mae Fedrai i Weithio yn helpu pobl sydd â phroblemau ysgafn i gymedrol ddod o hyd i waith a'i gadw er mwyn cefnogi eu hadferiad.
Mae'r rhaglen, sydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru, yn cael ei darparu gan ein staff mewn partneriaeth ag elusen gwasanaethau cefnogi personol, CAIS, a Strategaeth Dinas y Rhyl, gydag arian gan Lywodraeth Cymru.
Gwyddom fod llawer o bobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol eisiau gweithio, ond eu bod angen mwy o gefnogaeth i wneud hynny. Mae bod mewn gwaith yn darparu gweithgaredd ystyrlon sy'n helpu i wella iechyd, lles ac ansawdd bywyd.
Mae Fedrai i Weithio yn seiliedig ar egwyddorion y Rhaglen Cefnogaeth a Lleoliadau Unigol lwyddiannus (IPS), sy'n cael ei hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, fel y model arweiniol i helpu unigolion sydd ag iechyd meddwl gael i mewn i waith.
Mae Fedrai i Weithio yn seiliedig ar wyth egwyddor syml, sy'n seiliedig ar dystiolaeth:
- Mae'n anelu at gael pobl i mewn i waith cyflogedig (nid gwirfoddoli neu waith di-dâl)
- Mae'n agored i bawb sydd eisiau gweithio, ac sy'n cael cefnogaeth gan weithiwr proffesiynol iechyd ar gyfer problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Bydd Fedrai i Weithio hefyd yn cefnogi unigolion sydd mewn perygl o golli eu swyddi oherwydd eu cyflwr
- Mae'n ceisio dod o hyd i swyddi sy'n gyson â dewisiadau unigolion
- Mae'n gweithio'n sydyn- mae Fedrai i Weithio yn anelu at ddechrau chwilio am swyddi o fewn 30 niwrnod
- Mae'n dod â thimau Fedrai i Weithio a gweithwyr proffesiynol iechyd at ei gilydd, fel bod cyflogaeth yn dod yn rhan greiddiol o adferiad a lles
- Mae timau Fedrai i Weithio yn datblygu perthnasoedd â chyflogwyr fel y gallent baru unigolyn â swydd yn seiliedig ar y dewisiadau o ran gwaith, nid yn seiliedig ar bwy sydd â swyddi ar gael
- Mae'n darparu cefnogaeth unigol barhaus ar gyfer yr unigolyn a'i gyflogwr, gan helpu unigolion i gadw eu swyddi yn ystod amseroedd anodd
- Mae cwnsela budd-daliadau yn rhan ohono, oherwydd ni ddylai neb fod yn waeth eu byd oherwydd eu bod eisiau gweithio
Pwy sy'n gallu cael cefnogaeth gan Fedrai i Weithio?
Er mwyn bod yn rhan o'r rhaglen byddwch angen cytuno i gael eich argymell i'r cynllun Fedrai i Weithio gan weithiwr proffesiynol gofal iechyd. Bydd Fedrai i Weithio hefyd yn cefnogi unigolion sydd mewn perygl o golli eu swyddi oherwydd eu cyflwr.
Efallai y bydd unigolion sy'n derbyn cefnogaeth gan Fedrai i Weithio yn profi un neu nifer o'r canlynol:
- Iselder neu hwyliau isel
- Pryder
- Pyliau o banig
- Anhwylder gorfodaeth obsesiynol
- Ymateb emosiynol anarferol
Sut mae taith arferol Fedrai i Weithio yn edrych?
- Byddwch yn cyfarfod â Chynghorydd Fedrai i Weithio, fydd yn trafod eich amcanion o ran swydd
- Ar ôl y cyfarfodydd cychwynnol, bydd y tîm Fedrai i Weithio yn gweithio gyda chi yn syth i ddod o hyd i swyddi cyflogedig
- Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chyflogwyr i helpu i fodloni eich amcanion
- Bydd y tîm Fedrai i Weithio yn darparu cyngor manwl am fanteision ac effaith dychwelyd i'r gwaith ar incwm unigolion
- Bydd y tîm Fedrai i Weithio yn parhau i ddarparu cefnogaeth nes nad oes ei hangen mwyach
Stori Megan
Gwynedd, Wrexham and Flintshire
Anglesey, Conwy and Denbighshire