Mae cefnogaeth a gynigir gan Tir Dewi am ddim ac yn hollol gyfrinachol. Gall y gefnogaeth a gynigir amrywio o achos i achos yn dibynnu ar pa fath o gefnogaeth sydd ei angen.

Gallech chi fod:

  • Yn teimlo’n unig ac ynysig ac yn dymuno cael sgwrs gyda rhywun o bryd i’w gilydd
  • Yn poeni am arolwg sydd i ddod ac nad yw eich cofnodion wedi eu diweddaru
  • Eisiau help gyda chofnodi symudiadau anifeilaid
  • Gyda problemau ariannol
  • Yn dioddef yn dilyn profedigaeth neu afiechyd yn y teulu
  • Yn poeni am aelod o’r teulu
  • Yn ei chael hi’n anodd yn ystod cyfnod ŵyna neu adeg profi TB
  • Yn chael hi’n anodd yn derbyn eich rhywioldeb
  • Angen cefnogaeth gyda cynllunio dilyniant 

Mae gwirfoddolwyr Tir Dewi yn cefnogi ffermwyr sy’n dioddef oherwydd nifer o broblemau a dyfodd i’r fath raddau nes eu llethu. Gall y gefnogaeth hon barhau am fisoedd. Mewn achosion eraill, gallai ffermwr fod yn poeni am ddim ond un mater y gellid ei ddatrys gydag un neu ddwy alwad ffôn yn unig.

Y mae llawer o ffermwyr yn rhy falch i ofyn am gymorth ac yn teimlo cywilydd ac embaras. Yn aml gallant fod yn teimlo’n fethiant am fod pethau wedi mynd o chwith, er nad oes bai arnynt. Rydym i gyd yn mynd drwy gyfnodau yn ein bywydau pan fo bywyd yn anodd a theimlo fod pethau’n mynd yn drech. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

Gallwch siarad ag un o’n gwirfoddolwyr am eich gofidiau, materion personol neu broblemau, a hynny’n gwbl gyfrinachol. Gall hyn fod dros y ffôn drwy ein llinell gymorth sy’n gweithredu o 7.00yb tan 10.00yh, neu wyneb yn wyneb dros baned
Yr ydym yma i wrando nid i farnu. Byddwn yn eich cefnogi waeth beth fydd eich problem. Efallai na allwn ddatrys pob problem, ond byddwn yn aros wrth eich ochr fel na fyddwch yn teimlo’n unig mwyach.
Dros y blynyddoedd sefydlwyd perthynas gennym gyda sawl corff ffermio arall drwy Gymru yn cynnwys elusennau eraill, undebau ac awdurdodau a allai gynnig cefnogaeth mewn meysydd gwahanol. Gyda’ch caniatâd gallem gysylltu â nhw ar eich rhan tra’n dal i’ch cefnogi.

CYSYLLTWCH Â NI

Os ydych chi’n dioddef, o dan bwysau neu’n teimlo na allwch barhau, peidiwch â phetruso, galwch Tir Dewi heddiw ar 0800 121 47 22. Yr un peth y gallwch fod yn falch ohono yw ichi fod yn ddigon dewr i godi’r ffôn a gofyn am gymorth. Mae llawer o’r rhai sy’n galw yn dweud eu bod yn teimlo’n well yn dilyn yr alwad gyntaf, wrth allu rhannu yr hyn y maent wedi ei guddio ers tro, yr holl feddyliau a gofidiau sy’ wedi bod yn eu cadw’n effro. Gallwch hefyd anfon ebost atom i [email protected] a bydd un o’n gwirfoddolwyr yn cysylltu â chi. Am fwy o wybodaeth ewch at ein gwefan www.tirdewi.co.uk