Mynnwch eich Tocyn COVID GIG
Peidiwch â chysylltu â'ch meddygfa ynglŷn â'ch statws brechu COVID-19. Ni all GP’s ddarparu llythyrau yn dangos eich statws brechu COVID-19.
Cael eich pàs COVID y GIG
Gwybodaeth am sut i gael Pàs COVID y GIG.
Os na allwch gael eich brechu am resymau meddygol
Mae ychydig o resymau pam nad oes modd i unigolyn gael ei frechu am resymau meddygol.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- alergeddau difrifol i’r holl frechlynnau sydd ar gael
- adwaith niweidiol yn sgil brechlyn blaenorol
- anableddau dysgu, awtistiaeth neu gyfuniad o nam
Os yw unrhyw un o’r rhesymau hyn yn berthnasol i chi, gallwch gael pàs COVID y GIG domestig oherwydd eich sefyllfa. Bydd y dystiolaeth yn eich galluogi i ddefnyddio pàs COVID y GIG domestig lle bynnag yr ydych angen profi eich statws COVID-19 yng Nghymru.
Ni allwch ddefnyddio eich eithriad pàs COVID y GIG i deithio dramor.
Eithriadau meddygol rhag profion llif COVID-19
Cael help i ddefnyddio Pàs COVID y GIG
Os bydd unrhyw broblem gyda’ch manylion mewngofnodi'r GIG cysylltwch â chanolfan gymorth mewngofnodi'r GIG.
Os yw eich cofnod statws brechu yn anghywir, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol.
Dim ond eich enw cyntaf a'ch cyfenw fydd i’w gweld ar eich Pàs COVID, yn unol â gofynion y DU.
Defnyddio Pàs COVID y GIG i deithio’n rhyngwladol
Wrth deithio dramor, gallwch ddefnyddio Pàs COVID y GIG i brofi eich bod chi wedi cael brechlyn COVID-19.
Gwybodaeth am sut i gael Pàs COVID y GIG
Yn ogystal â’ch Pàs COVID y GIG, bydd angen i chi gadw at reolau eraill wrth deithio, fel cael prawf cyn gadael. Gwiriwch y gofynion mynediad ar gyfer y gwledydd rydych yn bwriadu ymweld â nhw, fel profion COVID-19 a’r angen i hunanynysu (ar GOV.UK).
Dylech wirio bod yr enw ar eich pasbort yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar Bàs COVID y GIG. Rhaid ichi wneud hyn o leiaf 2 wythnos cyn ichi deithio. Os yw’r enwau’n wahanol, cysylltwch â’ch practis meddyg teulu i ddiweddaru eich manylion. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r rheolau ar gyfer teithio dramor i ac o Gymru.
Mewn rhai gwledydd, ni fydd angen ichi ddangos eich Pàs COVID y GIG. Efallai y bydd rhaid ichi dreulio cyfnod cwarantin neu gymryd prawf i fodloni gofynion mynediad y wlad.
Os ydych chi’n dewis lawr lwytho ac argraffu copi o Bàs COVID y GIG, ni fydd y dyddiad terfyn yn diweddaru a bydd angen ichi argraffu copi newydd pan fydd wedi dod i ben.
Os nad ydych wedi cael cwrs llawn o’r brechlyn
Os nad ydych chi wedi cael cwrs llawn o’r brechlyn, dilynwch y gofynion mynediad presennol. Bydd y rhan fwyaf o wledydd yn derbyn prawf neu gyfnod cwarantin fel dewis arall i dystysgrif brechu.
Mae angen i chi ymchwilio’n fanwl i ofynion y wlad rydych yn mynd iddi cyn i chi deithio.
Cewch rhagor o fanylion ar ofynion mynediad ar dudalennau cyngor teithio tramor GOV.UK ac ar wefannau’r wlad yr ydych yn teithio iddi.
Cyngor teithio i bobl o Brydain sy’n teithio dramor yn ystod y pandemig.