Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn falch o gyhoeddi ein bod wedi penodi partneriaeth newydd i arwain y feddygfa ym Metws y Coed. Y bartneriaeth lwyddiannus yw Dr Raj Britto, Dr Owen Pooley a Mena Thamburatnam (partner anghlinigol). Byddant yn cymryd drosodd y feddygfa o’r 1af Fai 2024.

Gwnaeth y bartneriaeth newydd argraff ar y panel gyda'u cynlluniau ar gyfer y feddygfa, roeddent yn gallu dangos bod ganddynt fodel staffio cadarn a chynlluniau i gyfarfod anghenion y cleifion. Mae'r bartneriaeth eisoes yn rhedeg meddygfa yng Ngwynedd ac mae ganddynt brofiad blaenorol o reoli contractau meddygol newydd gyda gwasanaethau fferyllol. Yn ymuno â'r partneriaid mae Dr Anne Hoffman sy'n feddyg teulu profiadol, hyfforddodd Dr Hoffman yng Ngogledd Cymru ac wedi bod yn gweithio yn yr ardal fel partner a locwm ers 2017.

Efallai y bydd rhai o gleifion Betws y Coed yn cofio Dr Pooley sydd wedi gweithio yn feddygfa Betws y Coed ynghynt tra bod Dr Sion ar gyfnod mamolaeth yn 2020. Bydd Dr Lauren Beadle ac aelodau eraill y tîm presennol, clinigol ac anghlinigol, yn parhau yn y practis.

Bydd y Bwrdd Iechyd, y partneriaid presennol Dr Keep a Dr Sion ac oll dim y feddygfa yn parhau i weithio gyda'r partneriaid newydd i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu trosglwyddo'n esmwyth