Conwy Mind -Monitro Gweithredol
Beth yw Monitro Gweithredol?
Mae Monitro Gweithredol yn rhaglen chwe wythnos sy’n rhad ac am ddim ac sydd wedi'i dylunio i'ch helpu i ddeall eich sefyllfa bresennol yn well a theimlo’n fwy abl i reoli eich meddyliau a theimladau drwy eich grymuso i ddatblygu strategaethau ymdopi er mwyn cael rheolaeth well ar eich sefyllfa.
Sut mae’n gweithio?
Byddwch yn cael cymorth drwy’r cwrs gan un o’ch ymarferwyr cyfeillgar. Bydd y sesiwn gyntaf yn gyfle i siarad am eich anghenion a gweld a yw Monitro Gweithredol ar eich cyfer chi, gan benderfynu ar un o’r llwybrau canlynol:
- Pryder
- Iselder
- Hunanbarch
- Straen
- Unigrwydd
- Rheoli dicter
- Galar a cholled
Bob wythnos, bydd eich ymarferydd Monitro Gweithredol yn eich ffonio i weld sut ydych chi ac i gynnig cymorth ac arweiniad. Bydd yn trafod eich cynnydd a sut y mae pethau’n datblygu a bydd yn anfon gwybodaeth a llyfrau gwaith, un ai drwy’r post neu drwy e-bost, fel bod gennych yr offer a’r awgrymiadau sydd eu hangen arnoch.
A yw Monitro Gweithredol i mi?
Os ydych yn 18 neu drosodd, yn byw yn Sir Conwy, a newydd ddechrau profi pryder, hwyliau gwael, iselder neu’n mynd drwy gyfnod anodd, gallai Monitro Gweithredol fod yn addas i chi.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni heddiw drwy ffonio 01492 879907 neu anfon e-bost [email protected]
I gael rhagor o wybodaeth gan Mind Cymru cliciwch yma.